Cyfraith teulu
Mae gan Siambrau Angel Dîm Teuluol cryf gyda chyfoeth o brofiad. Mae’r Tîm yn cynnwys rhyw 24 o ymarferwyr gydag ystod o flynyddoedd o alwad o 1983 – 2013.
Cynigia’r Tîm arbenigedd mewn achosion Cyfraith Gyhoeddus gan gynrychioli Awdurdodau Lleol, rhieni a phartïon cyfrannog neu ynghlwm eraill a Gwarcheidwaid Plant. Mae amrywiaeth y gwaith a wneir yn cynnwys Achosion Gofal, Ceisiadau Hawliau Dynol, Ceisiadau Gorchymyn Lleoli a Mabwysiadu.
Yn ogystal, mae Ymarferwyr Teuluol ar draws y Tîm yn ymgymryd ag achosion Cyfraith Breifat, gwaharddebau a thraddodebau.
Ceir yn y tîm hefyd ddewis eang o Gwnsleriaid profiadol sy’n ymgymryd â phob agwedd ar waith rhwymedi ariannol yn gyson o ganlyniad i berthynas yn chwalu gan gynnwys:
- Setliadau ariannol wrth ysgaru neu ar ddiwedd partneriaeth sifil/perthynas cydbreswylio
- Ceisiadau Atodlen 1 Deddf Plant 1989
- Ceisiadau Rhan 37 M.C.A. 1973 am ryddhad gwaharddol i atal neu roi setliad i’r naill ochr
- Cytundebau cyn priodi neu ar ôl priodi
Mae pob un aelod o’r Tîm Teuluol yn perthyn i Gymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar.
Mae’r Tîm yn cynnwys 5 siaradwr Cymraeg rhugl.
Meysydd ymarfer