Cyfraith teulu – Cyhoeddus
Mae Siambrau Angel yn ymroi i waith cyfraith plant cyhoeddus; ein tîm teuluol cyfraith gyhoeddus yw un o’r rhai mwyaf yng Nghymru. Rydym yn cael ein cydnabod ar raddfa eang fel arweinwyr yn y maes hwn gyda nifer fawr o gwnsleriaid iau gradd uchel yn ymddangos mewn nifer fawr o’r achosion mwyaf difrifol ar draws Cymru.
Rydym yn cael brîff cyson ar bob math o achosion cyfraith gyhoeddus o’r FPC i’r Uchel Lys a’r llysoedd apêl. Cynrychiolwn rieni a phlant, gan weithredu trwy’r Cyfreithiwr Swyddogol a’r Gwasanaeth Cynghori Llys Teulu. Rydym yn cael cyfarwyddyd cyson gan awdurdodau lleol sy’n chwilio am gyngor a chynrychiolaeth arbenigol.
Gallwn ddarparu cwnsela arbenigol ar bob lefel profiad a hynafedd.
- Achosion yn ymwneud â honiadau difrifol o gamdriniaeth (anafiadau heb fod yn ddamweiniol, camymddygiad rhywiol, camdriniaeth emosiynol)
- Achosion cyfreithiol Medico – datganiadau ar driniaeth oedolion dan anabledd, achosion cymorth bywyd, sterileiddio, llawfeddygaeth heb fod yn therapiwtig, triniaeth plant
- Achosion yn ymwneud â materion addysg
- Achosion sy’n ymwneud â’r dyletswyddau dyledus i blant gydag anabledd a’u gofalwyr
- Mabwysiadu a mabwysiadu rhyngwladol a symud ar draws ffiniau
- Rhyddhad gwaharddol
- Gwarchodaeth Arbennig
Yn ogystal â’r meysydd hyn, rydym wedi datblygu arbenigedd arwyddocaol ac unigryw yn y defnydd o Hawliau Dynol o fewn deddfwriaeth Cymru sy’n tyfu. Mae ein tîm yn aml yn gweithredu mewn achosion sy’n cynnwys hawliadau am symiau sylweddol sy’n codi allan o doriadau i’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rydym yn brofiadol wrth gynrychioli hawlwyr a chyrff cyhoeddus mewn hawliau dynol ar eu pennau eu hunain ac wrth fynd ar drywydd hawliadau hawliau dynol o fewn achosion cyfraith teulu neu gyfraith gyhoeddus cyfredol.