Cyfraith teulu – Preifat
Mae aelodau’r tîm wedi cymryd rhan mewn achosion ar draws y sbectrwm cyfan o geisiadau posibl ac wedi caffael lefel uchel o allu.
Mae llawer o’r achosion hyn yn profi i fod yn hynod anodd ac anhydrin, er enghraifft pan fydd y rhiant â gofal yn gwrthwynebu i’r rhiant absennol gael cyswllt neu mewn achosion lle mae honiadau o gam-drin y plentyn a bod yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi ‘cau’r achos’.
Gall ein tîm teuluol arbenigol ddarparu:
- Cyngor, ar bapur ac mewn person
- Cynrychiolaeth ac eiriolaeth yn y llys
- Cyfryngdod
- Cyfraith gydweithrediadol
- Cyflafareddu
Mae ein tîm yn cynnwys nifer fawr o fargyfreithwyr mynediad uniongyrchol sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n brofiadol mewn Mynediad Uniongyrchol Cyhoeddus yn ymwneud ag achosion plant.
Mae hyn yn cwmpasu pob maes yn ymwneud â gofal a magwraeth plant sy’n codi o ganlyniad i ddiwedd perthynas trwy ysgaru neu wahanu:
- Ceisiadau preswylio a chyswllt
- Anghydfodau ynghylch addysg, triniaethau meddygol a newidiadau i enwau
- ‘Caniatâd i Fudo’ a symud i rywle rhyngwladol
- Cyfraith breifat ryngwladol
- Trais yn y cartref a chamdriniaeth emosiynol
- Achosion proffil uchel sy’n cynnwys unigolion adnabyddus
- Gwaharddebau Deddf Cyfraith Teulu cysylltiedig, gan gynnwys gorchmynion peidio ag ymyrryd a gorchmynion meddiannaeth)
- Gwrandawiadau canfod ffeithiau
- Atodlen 1 Deddf Plant 1989
- Deddf Cynhaliaeth Plant 1991
Meysydd ymarfer