Cyfraith teulu
Mae Kira wedi datblygu ymarfer cyfraith teulu prysur, gan gynrychioli Ceiswyr ac Ymatebwyr yn y Llys Sirol. Derbynia Kira gyfarwyddyd ar gyfer achosion cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus. Mae ei gwaith wedi cynnwys cynrychioli awdurdodau lleol a rhieni ar wahanol adegau yn ystod achosion gofal gan gynnwys gwrandawiadau rheoli achos, gwrandawiadau tynnu i ffwrdd dros dro a gaiff ei herio, gwrandawiadau datrys problemau a gwrandawiadau terfynol.
Caiff Kira ei chyfarwyddo’n rheolaidd mewn materion cyfraith breifat gan gynnwys materion yn ymwneud â cham-drin domestig a honiadau o gam-drin plant. Mae Kira yn brofiadol wrth gynrychioli cleientiaid ar bob cam mewn anghydfodau cyfraith breifat o gymodi i wrandawiadau canfod ffeithiau a gwrandawiadau terfynol.
Cyfraith trosedd
Cyfarwyddir Kira yn rheolaidd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron ac fel amddiffyniad mewn achosion o flaen y Llysoedd Ynadon. Mae Kira wedi delio ag ystod eang o faterion gan gynnwys troseddau trefn gyhoeddus, lladrad, troseddau yn erbyn y person a throseddau gyrru.
Cyfarwyddir Kira ym maes dedfrydu, ceisiadau am fechnïaeth a threialon.
Mae Kira yn cynrychioli’r heddlu’n rheolaidd mewn ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig ynghyd â cheisiadau datgelu ar ran yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o flaen y Llys Teulu.
Cyfraith sifil
Mae Kira yn cynrychioli Hawlyddion a Diffynyddion ym maes hawliadau bychain gan gynnwys damweiniau ffyrdd ac anghydfodau adeiladu.