Cyfraith trosedd
Mae James yn gweithredu i’r erlyniad a’r amddiffyniad ym mhob achos yn Llys y Goron a mae’n gallu cynnal achosion drwy’r iaith Gymraeg. Mae wedi ymddangos hefyd yn isadran droseddol y Llys Apêl mewn apeliadau yn erbyn collfarnau a dedfrydau. Mae James yn aml yn cael ei gyfarwyddo fel cwnsl ieuaf mewn achosion o lofruddiaeth.
Mae’n aelod o Banel Eiriolwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron Trais a troseddau rhywiol difrifol.
Mae James wedi cynrychioli’r amddiffyniad mewn sbectrwm eang o honiadau troseddol, gan gynnwys troseddau herwgipio, lladrad, drylliau a masnachu cyffuriau. Mae’n gweithredu hefyd mewn troseddau twyll ac anonestrwydd difrifol gan gynnwys cynllwynio i dwyllo, blacmel, ymolchi arian a gwrthdroi cwrs cyfiawnder. Yn ogystal, mae James yn cynrychioli diffynyddion mewn achosion troseddau rhywiol, gan gynnwys y rhai’n ymwneud â honiadau hanesyddol.
Caiff James gyfarwyddyd cyson gan awdurdodau lleol i erlyn troseddau twyll a diogelu defnyddwyr a ymchwilir iddynt gan swyddogion Safonau Masnach.
Mae James wedi cynrychioli’r heddlu ac aelodau’r cyhoedd mewn apeliadau yn erbyn dirymu tystysgrifau drylliau. Ymddangosodd hefyd o flaen y Bwrdd Parôl i gynrychioli carcharorion a ailalwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn apeliadau yn erbyn dirymu eu trwyddedau ac hefyd wedi cynrychiolu heddweision mewn achosion ddisgyblu a chamymddwyn.